Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
17 Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13345
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofynnwyd y 6 cwestiwn.
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Atebwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa fesurau bioddiogelwch y mae'r Gweinidog yn ymgymryd â hwy i atal ymlediad H5N1 yng Nghymru yn sgil dau weithiwr dofednod yn Lloegr yn dal ffliw adar?
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.39
Gwnaeth Tom Giffard ddatganiad am – Wythnos Twristiaeth Cymru (15-21 Mai).
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Dadorchuddio plac porffor cyntaf Cwm Cynon yn Amgueddfa Cwm Cynon, i gofnodi fywyd a gwaith Rose Davies (12 Mai).
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad am - Nodi 60 mlynedd o’r Sŵ Fynydd Gymreig (18 Mai).
Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad am - Wythnos Gweithredu ar Ddementia (15-21 Mai).
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (15-21 Mai).
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Diogelwch adeiladau uchel
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8230 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch adeiladau; a
b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
18 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Digartrefedd
Dechreuodd yr eitem am 16.16
NDM8267 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Digartrefedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl Plaid Cymru - Clefydau anadlol
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8266 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod 1 ym mhob 5 o bobl yn byw gyda chyflwr ysgyfaint yng Nghymru;
b) bod gan Gymru'r lefel uchaf o farwolaethau anadlol yng ngorllewin Ewrop;
c) nad yw'r gwasanaethau anadlu wedi adfer yn dilyn y pandemig, gyda rhestrau aros ar gyfer adsefydlu ysgyfeiniol mor uchel â thair blynedd mewn rhai rhannau o Gymru;
d) bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu datganiad ansawdd newydd ond does dim cynllun gweithredu.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl 1(b) a rhoi yn ei le:
bod Cymru’n arwain y ffordd yn y DU mewn llawer o agweddau ar wella gwasanaethau clefydau anadlol, gan gynnwys defnyddio addysg ddigidol yn helaeth i wella gofal clinigol, defnyddio apiau i gleifion i leihau’r angen am ofal brys a gofal mewn argyfwng, a helpu cleifion i newid i ddefnyddio anadlyddion ag ôl troed carbon is.
y bydd y GIG yn ymateb i’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol drwy ei waith cynllunio gweithredol lleol ac y bydd yn cael ei gefnogi’n genedlaethol gan rwydwaith clinigol Gweithrediaeth y GIG ar gyfer clefydau anadlol.
Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
9 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.51
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.53
NDM8265 Peter Fox (Mynwy)
Pam fod angen cynllun strategol ar Gymru i flaenoriaethu ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd
Daeth y cyfarfod i ben am 18.12
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Mai 2023